Adroddiadau am Ddigwyddiadau ac Ymchwiliadau i Dân

Beth yw Adroddiad i Ddigwyddiad?

Bydd Adroddiad i Ddigwyddiad yn cael ei gwblhau wedi i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru (“GTADC”) fynychu digwyddiad. Mae digwyddiadau yn cynnwys tanau, gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd, galwadau ffug ac argyfyngau eraill megis llifogydd, cynorthwyo asiantaethau eraill, achubiadau o uchder ac ati.

Bydd unrhyw adroddiadau a wnaed i’r Ganolfan Cyd-reoli Tân ac unrhyw nodiadau a wnaed o ganlyniad tra bydd unrhyw ddigwyddiadau yn fyw yn cael eu defnyddio i gynhyrchu Adroddiad i Ddigwyddiad. Nodiadau gweithredol yw’r rhain ac maen nhw’n newid yn ystod y digwyddiad, ac o’r herwydd, dyna pam bydd Adroddiad i Ddigwyddiad yn cael ei gynhyrchu wedi i ddigwyddiad orffen, yn cynrychioli cofnod cywir o’r digwyddiad, sef beth sy’n gyrchadwy drwy law’r broses ymgeisio a ddisgrifiwyd isod. A fyddwch cystal â nodi lle hysbysir GTADC o achos o losgi o dan reolaeth, fel arfer ni fydd Adroddiad i Ddigwyddiad yn cael ei lunio.

Mae Adroddiad i Ddigwyddiad yn darparu manylion ar y digwyddiad, adnoddau a ddefnyddiwyd, camau a gymerwyd gan GTADC a, lle bo’n briodol, manylion am ddifrod ac unrhyw wybodaeth ar yr achos. Mae’r wybodaeth o fewn Adroddiad i Ddigwyddiad yn cael ei gasglu’n bennaf at ddibenion ystadegol ac mae’n dilyn gweithdrefn safonol sy’n seiliedig ar gynllun cofnodi a nodwyd gan y Swyddfa Gartref. Os fydd eich cais am wybodaeth nad sy’n cael ei gofnodi’n arferol, efallai na fyddwn yn gallu darparu’r wybodaeth honno i chi.

Cynhyrchir ystadegau anhysbys ynghylch achosion tanau i hysbysu ein prosesau cynllunio busnes mewnol, ein Cynlluniau Gwella Blynyddol a’n Cynllun Strategol i’r cyhoedd (sy’n ofyniad o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) (2009) ac i adrodd i Lywodraeth Cymru ac archwilwyr.

Lle bydd digwyddiad mwy difrifol yn cymryd lle, fel lle bydd person yn cael ei anafu, lle na ellir sefydlu achos yn syth neu lle credir bydd achos tân yn amheus neu’n fwriadol, efallai bydd ymchwiliad i dân yn cael ei gynnal a bydd Adroddiad Ymchwiliad i Dân yn cael ei lunio. A fyddwch cystal â nodi na fydd pob digwyddiad yn arwain at ymchwiliad i dân neu bydd Adroddiad Ymchwiliad i Dân yn cael ei lunio.

 

Beth yw Adroddiad Ymchwiliad i Dân?

Pwrpas ymchwiliad i dân yw penderfynu cyhyd ag sy’n rhesymol ymarferol tarddiad, achos ac ymddygiad mwyaf tebygol tân a’r bobl a effeithiwyd, ac fel bydd y tueddiadau’n cael eu hadnabod gyda golwg at leihau colledion tân i’r dyfodol. Darperir y grym i ymgymryd ag ymchwiliad i achos tân gan Adran 45 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. Mae cynnwys Adroddiad Ymchwiliad i Dân yn seiliedig ar wybodaeth sydd ym meddiant GTADC ar adeg ei gasglu ar sail technegau a gweithdrefnau ymchwilio i dân, ac mae’n cynrychioli cofnod gwir a chywir o ymchwiliad i dân. Nid ddylid ystyried y cynnwys yn gyflawn o anghenraid a dyw GTADC ddim yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ganlyniadau o ddibyniaeth ar adroddiad. Ymgymerir â phob ymchwiliad i dân â gonestrwydd, uniondeb, gwrthrychedd a didueddrwydd.

Mewn achosion lle credir bod achos tân yn amheus neu’n fwriadol, mae gennym gyfrifoldeb i chwilio am ymrwymiad gan yr Heddlu yn y cam cynharaf sy’n ymarferol. Rydym yn gweithio gyda’r Heddlu a phartneriaid eraill i helpu adnabod a chael yn euog y rhai hynny sy’n gyfrifol am gychwyn neu gynorthwyo â datblygu tân. Lle bo’n briodol, bydd gwybodaeth a gasglwyd neu a dderbyniwyd gennym mewn perthynas â throsedd neu farwolaeth sy’n ymwneud â thân yn cael ei blasio ymlaen at yr Heddlu a bydd unrhyw wybodaeth fydd yr Heddlu’n caffael sy’n cynorthwyo wrth benderfynu achos tân yn cael ei basio atom ni, oni bai bydd hyn yn rhagfarnu’u hymchwiliad.

Fel y cyfeiriwyd ato ynghynt, mae pwrpas cynnal ymchwiliad i dân yn cynnwys tueddiadau sydd â golwg tuag at leihau colledion tân i’r dyfodol. Efallai bydd Adroddiadau Ymchwiliad i Dân yn cael eu pasio mlaen at asiantaethau eraill gan gynnwys Crwner Ei Mawrhydi, Awdurdodau Lleol a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch.

 

Pwy sy’n gallu cyflwyno cais am Adroddiad Ymchwiliad i Ddigwyddiad neu Adroddiad Ymchwiliad i Dân?

Gall Adroddiad Ymchwiliad i Ddigwyddiad neu Dân gynnwys gwybodaeth bersonol ac, fel y cyfryw, mae cyfyngiadau ar bwy sydd â’r hawl i weld y wybodaeth a gynhwyswyd oddi fewn iddynt. Felly, ar gais, rydym yn cymryd hunaniaeth yr ymgeisydd i ystyriaeth ac efallai byddwn yn gorfodi’r wybodaeth a geisiwyd i fod yn destun ailolygiadau i ddiogelu gwybodaeth sy’n bersonol ac sydd fel arall yn sensitif. Asesir pob cais i sicrhau bydd yr ymgeisydd â’r hawl i dderbyn adroddiad a sicrhau ein bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data.

Fel arfer, darperir adroddiadau i berchnogion neu breswylwyr eiddo neu gerbydau a niweidiwyd, y rhai hynny a anafwyd yn ystod digwyddiad (a gofnodwyd o fewn cofnodion digwyddiad perthnasol) neu’r rhai hynny sy’n gweithredu ar eu rhan.

Efallai bydd ceisiadau gan awdurdodau lleol, gwasanaethau’r heddlu ac asiantaethau llywodraethol eraill yn gymwys os oes angen gweithredu, yn berthnasol i ddigwyddiad.

A fyddwch cystal â nodi nad ydym, yn gyffredinol, yn gallu rhyddhau unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â galwadau ffôn y gallwn fod wedi’u derbyn sy’n perthyn i’r digwyddiad, yn enwedig manylion y galwr. Hefyd, yn gyffredinol, nid ydym yn gallu rhyddhau gwybodaeth sy’n ymwneud ag unigolion sydd ynghlwm â’r digwyddiad. Hefyd, yn gyffredinol, nid ydym yn gallu gwneud sylw ar drigianoldeb eiddo preswyl neu p’un ai yw unrhyw adeilad yn ddiogel i gael mynediad iddo ai peidio yn dilyn digwyddiad.

 

Sut i gyflwyno cais am Adroddiad Ymchwiliad i Ddigwyddiad neu Adroddiad Ymchwiliad i Dân?

Os hoffech chi roi cais am gopi o Adroddiad i Ddigwyddiad neu Adroddiad Ymchwiliad i Dân, darllenwch a chwblhewch naill ai’r Cyfarwyddyd Adroddiad i Ddigwyddiad a’r Ffurflen Gais neu’r Cyfarwyddyd Adroddiad Ymchwiliad i Dân a’r Ffurflen Gais gyda chynifer o fanylion ag sy’n bosib a chyflwynwch eich cais law yn llaw â chopïau o’ch adnabyddiaeth bersonol at:

E-bost: LlywodraethuGwybodaeth@decymru-tan.zestydev.com

Neu ysgrifennwch atom yn:

Llywodraethiant Gwybodaeth a Chydymffurfiaeth

Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Parc Busnes Forest View

Llantrisant

CF72 8LX

A fyddwch cystal â nodi nad ydym yn gallu darparu gwybodaeth ar ddigwyddiadau byw. Cyn gallwn ni ddanfon unrhyw wybodaeth i chi, bydd angen cwblhau ein cofnod mewnol o’r digwyddiad gan y criw sy’n mynychu ac mae angen sicrhau ein bod yn gorffen unrhyw ymchwiliadau (os y’u cynhelir).

 

Oes yna gost?

Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru’r hawl i godi tâl am wasanaethau arbennig drwy law Adran 18A o’r Ddeddf Gwasanaethau Tân 2004. Mae GTADC yn codi tâl am fynediad at wybodaeth fwy cynhwysfawr a manwl sy’n ymwneud â digwyddiadau a fynychwyd, fel sy’n gyffredin ymysg gwasanaethau tân ac achub.

Gan fod gwybodaeth am ddigwyddiadau yn weddol gyrchadwy drwy law ffyrdd eraill, er mai dim ond wrth dalu’n unig y ceir mynediad, bydd ceisiadau am Adroddiadau Digwyddiadau neu Ymchwiliadau i Dân o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn cael eu gwrthod o dan Adran 21 (h.y. gwybodaeth sy’n gyrchadwy i’r ymgeisydd drwy fodd arall), a chan fod yr eithriad hwn yn absoliwt, nid yw’n amodol ar brawf lles y cyhoedd.

Mae’r agwedd hon o godi tâl gan wasanaethau tân ac achub wedi’i hadolygu a’i gymeradwyo gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn ôl tystiolaeth Penderfyniad Rhybudd FS50859031.

Yn aml, mae data personol o fewn Adroddiadau i Ddigwyddiadau ac Ymchwiliadau i Dân yn gyfyngedig ac yn ymwneud yn arferol ag unrhyw ddioddefwyr a all fod wedi’u hanafu mewn digwyddiad. Fel arfer, gallwn ddatgelu gwybodaeth i feddiannwr eiddo, gyrrwr cerbyd neu rywun sy’n cynnal busnes ar safle ar adeg y digwyddiad yn unig. Fodd bynnag, yn aml rydym yn deall mai’r landlord/asiant gosod neu yswirwyr fydd yn rhoi cais am yr adroddiad – yn yr achosion hynny, gallwn ryddhau’r adroddiad, ar yr amod fod gennym ganiatâd yr unigolion hynny. Os oes amryfal bobl yn gysylltiedig â’r digwyddiad, mae angen caniatâd gan bob unigolyn i ryddhau fersiwn sydd heb ei hailolygu, pe bai’n cynnwys eu data personol neu sail gyfreithiol arall er mwyn datgelu eu data personol.  Mae hyn yn hanfodol er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data ac amddiffyn ymyrraeth ddiangen â phreifatrwydd pobl.

O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gan unigolion hawl i gopi o’u data personol eu hunain yn unig. Nid yw’n rhoi hawl iddynt am gopi o ddogfennau gwreiddiol neu wybodaeth nad sy’n ymwneud â hwy fel unigolyn dynodedig.

Cost cyflwyno cais am Adroddiad i Ddigwyddiad yw £114.59 gan gynnwys TAW.

Cost cyflwyno cais am Adroddiad Ymchwiliad i Dân yw £594.23 gan gynnwys TAW.

Wedi i ni dderbyn ac adolygu eich cais, byddwn yn darparu’r manylion perthnasol i chi i ddarparu taliad lle bo’n briodol.

 

Beth sy’n digwydd nesaf?

Byddwn yn ymateb i bob cais, yn eich hysbysu o’r camau nesaf ac os fyddwn angen unrhyw wybodaeth bellach.

Rydym yn bwriadu darparu’r adroddiad i ddigwyddiad cyn gynted â phosib, ond ar adegau, gall hwn gymryd dyddiau, wythnosau neu’n hirach, yn dibynnu ar natur y digwyddiad.

I siarad â ni ynghylch adroddiad neu holi ynghylch un rydych eisoes wedi’i gyflwyno, cewch gysylltu â ni drwy law ffôn ar 01443232355 neu wrth e-bostio  LlywodraethuGwybodaeth@decymru-tan.zestydev.com