A oes angen Asesiad Risg Tân arnaf?
Mae’n ddyletswydd ar yr unigolyn cyfrifol i gyflawni ac adolygu asesiad risg tân o’r safle’n rheolaidd. Bydd hyn yn amlygu beth sydd angen i chi ei wneud i atal tân a chadw pobl yn ddiogel. Rhaid i chi gadw cofnod ysgrifenedig o’ch Asesiad Risg Tân os yw’ch busnes yn cynnwys 5 neu fwy o bobl.
Dilynwch ein proses pum cam syml:
Mae’r siart Asesiad Risg Diogelwch Tân yn rhoi gwybodaeth fanylach am y camau hyn.
Bydd angen i chi ystyried:
Gallwch gwblhau Asesiad Risg Tân eich hun, gyda help canllawiau asesu risg diogelwch tân. Gallwch ddefnyddio’r llyfryn Asesu Risg Tân fel templed i gofnodi eich Asesiad Risg Tân.
Os nad oes gennych chi’r arbenigedd na’r amser i gwblhau’r Asesiad Risg Tân, bydd angen i chi benodi asesydd risg tân ‘cymwys’ i helpu. I gael arweiniad ar ddewis aseswr risg tân cymwys, cyfeiriwch at y canllaw isod.
Gallwch lawrlwytho’r canllawiau canlynol o’n hadran cyngor, dogfennau ac adnoddau i’w lawrlwytho.
Hefyd, cewch arweiniad ar: