Diffoddwyr tân yn annog glas myfyrwyr i gadw’n ddiogel

Diffoddwyr tân yn annog glas myfyrwyr i gadw’n ddiogel yr Wythnos Glas ar draws De Cymru.

Daw’r rhybudd wrth i filoedd o fyfyrwyr newydd fynd i brifysgolion ledled De Cymru ar ddechrau Wythnos y Glas. Dyma’r tro cyntaf i lawer ohonynt fyw yn annibynnol wrth adael eu cartrefi i fyw ar eu pennau eu hunain, mewn neuaddau preswyl neu eiddo’r brifysgol.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn annog myfyrwyr i gymryd gofal ychwanegol a bod yn ofalus gan obeithio lleihau nifer y tanau damweiniol ac osgoi peryglu eu hunain ac eraill o fewn yr eiddo newydd ill dau!

Mae ein criwiau wedi mynychu dros 550 o danau mewn eiddo preswyl aml-feddiannaeth yn ystod y tair blynedd diwethaf, gyda diffoddwyr tân yn mynychu hyd at bum tân yn wythnos yn ymwneud â choginio. Ar draws Cymru, mae hyd at 40% o danau’n dechrau yn y gegin, gan gynyddu’r galw am ein diffoddwyr tân yn ogystal ag arwain o bosibl at ganlyniadau trasig. Cymerwch ofal ychwanegol wrth goginio, peidiwch â gadael i’ch sylw grwydro a pheidiwch â choginio tra byddwch dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau. Gall tân ledaenu a mynd allan o reolaeth mewn ychydig o eiliadau.

Mae tanau trydan hefyd yn brif achos tanau damweiniol mewn cartrefi, gyda diffoddwyr tân yn mynychu dros 600 o danau yn ystod y tair blynedd diwethaf, lle achoswyd y tân gan ddiffygion trydanol, gwaith cynnal a chadw gwael neu gyfarpar yn gorboethi.

Dywedodd Pennaeth Diogelwch Cymunedol Dean Loader a Lleihau Risg Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “Mae dechrau yn y brifysgol yn gyfnod cyffrous i bawb, ac nid ydym eisiau difetha’r hwyl, ond mae byw’n annibynnol yn golygu ymgymryd â llawer mwy o gyfrifoldeb. Gall byw mewn neuaddau myfyrwyr fod yn hwyl ond cofiwch nad yw alcohol a choginio’n mynd llaw yn llaw a gallai diffyg sylw arwain yn gyflym at dân. Yn aml, mae’r mathau hyn o lety yn adeiladau yn fflatiau neu dai gyda nifer o fyfyrwyr yn byw gyda’i gilydd, sy’n risg ychwanegol gyda nifer fawr o bobl yn byw mor agos at ei gilydd. Rydym wedi llunio nifer o awgrymiadau i helpu myfyrwyr i leihau’r risg o dân lle bynnag y maent yn byw yn ystod y tymor. Gofynnwn i fyfyrwyr ddarllen drwy ein holl gynghorion diogelwch yn ofalus, cadw’n ddiogel a gofalu am ei gilydd. Mewn argyfwng dylech ffonio 999 bob amser.”

 

Wrth gyrraedd

  • Peidiwch â gorlwytho socedi plygiau. Defnyddiwch y Gyfrifiannell Diogelwch Trydanol os nad ydych chi’n siŵr (Saesneg yn unig).
  • Cofiwch ddiffodd offer trydanol fel sythwyr gwallt, peiriannau sychu gwallt a gwefrwyr ffonau symudol pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.
  • Defnyddiwch y gwefrydd a gyflenwir gyda’r ffôn neu’r dabled bob amser.
  • Peidiwch â gadael gliniaduron wedi’u plygio i mewn ar wlau gan y gallant orboethi a chychwyn tân.
  • Gosodwch wresogyddion cludadwy yn ddiogel yn erbyn wal, i osgoi iddynt gwympo drosodd. Cadwch nhw’n bell o lenni a dodrefn a pheidiwch byth â sychu dillad arnynt.
  • Canfyddwch ble mae eich llwybr dianc agosaf mew nachos o dân.
  • Os ydych chi’n byw oddi ar y campws, sicrhewch fod larwm mwg wedi’i osod ar bob lefel o’r eiddo a’i brofi’n wythnosol.
  • Os yw’r adeilad yr ydych yn byw ynddo yn cael ei reoli gan y brifysgol, siaradwch â nhw am larymau a llwybrau dianc.

 

Coginio

  • Peidiwch â gadael coginio heb oruchwyliaeth.
  • Cymerwch ofal ychwanegol wrth ffrio gydag olew gan fod hwn yn achos tân cyffredin iawn. Os bydd tân, PEIDIWCH BYTH â rhoi dŵr arno.
  • Sicrhewch fod eich offer coginio’n lân – gall haenau o saim achosi tân.
  • Ar ôl noson allan bwytwch bryd o fwyd ffwrdd â hi – nid yw coginio ar ôl yfed alcohol yn gall.

 

Canhwyllau

  • Cadwch ganhwyllau’n bell o arwynebau neu decstilau fflamadwy megis llenni, setiau teledu neu’r bath a pheidiwch byth â’u gadael heb oruchwyliaeth.
  • Cofiwch eu diffodd yn iawn bob amser cyn mynd i gysgu.

 

Ysmygu

  • Cymerwch ofal ychwanegol wrth ysmygu dan do yn enwedig os ydych wedi yfed alcohol.
  • Peidiwch ag ysmygu yn y gwely a gwnewch yn siŵr eich bod wedi diffodd eich sigarét yn iawn cyn i chi fynd i gysgu.
  • Defnyddiwch flwch llwch priodol wedi’i wneud o ddeunydd nad yw’n hylosgi. Peidiwch byth â rhoi sigaréts wedi’u goleuo yn y bin.

 

E-sigaretiau

  • Peidiwch â phrynu cynhyrchion ffug.
  • Er eu bod yn gallu cael eu gwefru drwy borthladd USB – DIM OND y gwefrwr a ddaw gyda’r cynnyrch y dylid ei ddefnyddio er mwyn atal y batri rhag ffrwydro.
  • Peidiwch byth â’u gadael heb oruchwyliaeth tra byddant yn gwefru.

 

Byddwch yn ymwybodol o’ch hawliau

  • Ym mhob eiddo rhaid i’r landlord;
  • Sicrhau bod offer nwy yn cael eu gosod a’u cynnal a’u cadw’n flynyddol gan blymwr a gofrestrwyd gyda Diogelwch Nwy.
  • Gyflawni gwaith cynnal a chadw gwifrau a chyfarpar trydanol cysylltiedig i sicrhau eu bod yn ddiogel i’w defnyddio.
  • Wneud yn siŵr bod unrhyw ddodrefn a ffabrig dodrefnu y maent yn eu darparu yn bodloni’r rheoliadau ymwrthedd i dân.

 

Os oes gennych bryderon ynghylch Diogelwch Tân cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru lle gallwch adrodd am bryder tân ar-lein neu ffoniwch 01443 232716 yn ystod oriau gwaith arferol o Ddydd Llun i Ddydd Gwener rhwng 9yb a 5yh.

I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch tân, ewch i’n tudalen Diogelwch Tân Myfyrwyr; https://decymru-tan.zestydev.com/eich-diogelwch-a-lles/yn-y-cartref/diogelwch-tan-i-fyfyrwyr/.

Dilynwch ni hefyd ar Twitter @TanDeCymru lle byddem yn arddangos negeseuon diogelwch i fyfyrwyr ar #Glasfyfyrwyr2020

Neu ewch i’n tudalen Facebook www.facebook.com/TanDeCymru