DTDG 2024
Yn cychwyn ar y 29ain o Ionawr 2024, bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân y System Ddyletswydd Gyflawn (Llawn Amser). Ai eich uchelgais yw dweud “Rwy’n Ddiffoddwr Tân”? Ydych chi’n gallu bod yn fwy na dim ond iwnifform, a mwy na bathodyn? Ry’n ni eisiau clywed gennych! Ry’n ni’n chwilio am bobl sydd eisiau gwneud gwahaniaeth o fewn eu cymuned, sy’n ddisgybledig ag sydd â chanolbwynt ac sy’n gallu ein helpu ni i gadw De Cymru’n le diogel i fyw a gweithio ynddo ac i deithio iddo.
Fel rhan o’n proses, bydd angen i chi arddangos eich bod yn rhannu ein Gwerthoedd Craidd a’ch bod yn fodlon ymrwymo i’r lefel o hyfforddi a ffitrwydd sydd angen i gwrdd â gofynion heriol y rôl bwysig hon.
Darllenwch fwy ynghylch bod yn Ddiffoddwyr Tân Llawn Amser.
Gwyliwch ein fideo llawn isod:
Mae ceisiadau trwy ein system e-recriwtio CoreHR bellach ar agor tan ganol dydd ddydd Llun 19 Chwefror.
Am help ar sut i gwblhau ffurflen gais yn ein system CoreHR, gwyliwch y fideo canlynol:
Os cewch gyrraedd y rhestr fer, gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus i fynychu prawf gallu. Yn dilyn ymlaen o’r cam hwn, gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus fynychu profion corfforol ac ymarferol cyn y cam terfynol, sy’n gyfweliad. Cynhelir y camau hyn o’r broses rhwng yn hwyr fis Mawrth a mis Mai 2024.
Noder: Mae hon yn broses hynod gystadleuol.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, darllenwch ein dogfen Cwestiynau Cyffredin ac Atebion yn ofalus. Os na chaiff eich cwestiwn ei ateb gan y ddogfen, cysylltwch â’n swyddog ymroddedig pwrpasol i Ddiffoddwyr Tân Llawn Amser wrth e-bostio: sddg@decymru-tan.zestydev.com
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n cydnabod gwerth meddu ar weithlu amrywiol ac yn annog ymgeiswyr o bob aelod o’n cymunedau i ymgeisio. Yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, rydym yn ymwybodol fod anwesu gwir gydraddoldeb ac amrywiaeth yn daith sy’n parhau.
Fe wnaethom ofyn i rai o’n Diffoddwyr Tân beth maen nhw’n mwynhau ynghylch y rôl. Gwyliwch eu fideos byrion isod:
Rydym yn angerddol am:
Edrychwch ar ein llyfr gwybodaeth yma.
Rydym hefyd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad. Darllenwch fwy am rolau diffoddwyr tân yma.