Nid yw’n gymhleth! Cadwch yn ddiogel nos Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt eleni.
Nid yw’n gymhleth… cadwch yn ddiogel nos Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt eleni.
Mae Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt fel arfer ymysg yr adegau prysuraf y flwyddyn sy gan ein criwiau tân.
Y llynedd, rhwng y 26ain o Hydref a’r 6ed o Dachwedd mynychom 232 o danau bwriadol – sef gostyngiad o 22% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Hoffem barhau i leihau’r nifer hon gan fod mynychu digwyddiadau o ganlyniad i gamddefnyddio tân gwyllt a choelcerthi yn gwastraffu amser ein diffoddwyr tân ac yn eu rhwystro wrth geisio mynychu gwrthdrawiadau traffig ar y ffordd neu dân mewn tŷ, er enghraifft a gall hyn arwain at farwolaethau.
Yn 2018 yn unig mynychodd ein criwiau 60 o ddigwyddiadau’n ymwneud â thanu gwyllt a choelcerthi. Gall tân gwyllt fod yn ysblennydd, ond maent yn beryglus a gallant achosi anaf difrifol os cânt eu trin yn anghyfrifol. Os ydych chi eisiau mwynhau tân gwyllt eleni beth am fynd i arddangosfa ddiogel a drefnir ar gyfer y cyhoedd?
Lawrlwythwch ein taflen diogelwch tân gwyllt yma
Os ydych yn prynu tân gwyllt, cofiwch;
Gall coelcerthi hefyd fod yn risg tân.
Felly byddem yn eich argymell i ddod o hyd i ffyrdd amgen o waredu eich gwastraff, ond os ydych chi’n gynnau coelcerth, gwnewch yn siwr eich bod chi’n dilyn ein hawgrymiadau diogelwch;
O ran Calan Gaeaf, ein pryder mwyaf yw canhwyllau mewn pwmpenni a llusernau heb eu goruchwylio heb oruchwyliaeth, yn enwedig pan fyddant yn agos at wisgoedd ffansi. Defnyddiwch oleuadau batri yn hytrach na chanhwyllau yn eich llusernau pwmpen yn enwedig mewn a phartïon plant. Gofalwch hefyd eich bod yn prynu gwisgoedd ffansi sydd wedi’u labelu â’r safonau a’r rheoliadau cymeradwy.
Lawrlwythwch ein poster diogelwch yma
Dywedodd Neil Davies, Rheolwr Grŵp a Phennaeth Troseddau Tân a Diogelwch yn y Cartref: “Mae’r adeg hon o’r flwyddyn wastad yn hwyl ac rydym eisiau sicrhau y gall pawb fwynhau’r dathliadau’n ddiogel. Mae ein neges yn syml iawn – byddwch yn gall a gofalwch am eich hunain a’ch gilydd fel na fydd angen ein gwasanaethau arnoch chi yn ystod eich noson.
Byddwn yn mynychu llawer o danau heb eu goruchwylio, anafiadau a choelcerthi allan o reolaeth. Y peth diogelwch i’w wneud yw cynllunio ymlaen a mynychu arddangosfa a drefnir i’r cyhoedd. Mae tanau gwyllt a choelcerthi’n lawer o hwyl ond mae’n bwysig bod yn ofalus gan fod yn gyfrifol wrth fwynhau’r dathliadau. Gall ymddwyn yn anghyfrifol o gwmpas tanau a thân gwyllt arwain at ganlyniadau erchyll, gan achosi anafiadau sy’n fygythiad i fywyd gan hyd yn oed achosi colli bywydau.”
Os ydych chi’n trefnu coelcerth heb oruchwyliaeth rhowch wybod i’n Hystafell Rheoli Tân ar y cyd ar 01268 909 408 neu am gyngor ychwanegol ac arweiniad mae croeso i chi ymweld â’n gwefan: https://decymru-tan.zestydev.com/eich-diogelwch-a-lles/