Pride Cymru
Mae Penwythnos Mawr Pride Cymru 2023 yn ddathliad mwyaf Cymru o gydraddoldeb ac amrywiaeth ac mae’n croesawu dros 50,000 o bobl i brifddinas Cymru.
Cynhelir y digwyddiad deuddydd dros benwythnos 17 a 18 Mehefin 2023.
Yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, rydym yn angerddol am wneud pawb yn ein cymunedau yn fwy diogel, bod yn gyflogwr sy’n adlewyrchu’r holl bobl rydym yn eu gwasanaethu ac yn trin y cyhoedd a’n staff ag urddas a pharch.
Felly, rydym yn falch o fod yn cymryd rhan yng ngorymdaith Pride Cymru eleni, lle bydd aelodau o staff, gwirfoddolwyr, teulu a ffrindiau yn gorymdeithio i ddathlu cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Hefyd, bydd gennym stondin marchnad lle bydd staff yn gallu darparu cyngor recriwtio a diogelwch – felly os byddwch yn dod ar draws ni, rhowch wybod i ni ar y cyfryngau cymdeithasol: Instagram | Twitter | Facebook
Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Pride Cymru.
Gyda nifer o weithgareddau a dathliadau yn digwydd dros y penwythnos, mae diogelwch ein cymunedau yn bwysig i ni.
Rydym yn annog aelodau’r cyhoedd i gadw diogelwch mewn eu cof wrth ddathlu ac yn eu hannog i beidio â bod yn hunanfodlon neu golli sylw.
Felly, rydym wedi llunio ein hawgrymiadau gorau ar gyfer eich cadw’n ddiogel wrth fwynhau’r dathliadau.
Er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau Pride Cymru yn ddiogel, bydd nifer o ffyrdd ar gau cyn ac yn ystod y digwyddiad.
Byddwch yn barod a chynlluniwch eich teithiau ymlaen llaw i osgoi siomi. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gau ffyrdd YMA.
Cadwch fynediad i gerbydau’r gwasanaeth brys mewn cof.
Peidiwch byth â gyrru dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol a chofiwch, os ydych chi wedi bod yn yfed alcohol, fe allech chi ddal i fod dros y terfyn cyfreithiol y diwrnod canlynol.
Byddwch yn ymwybodol ac ymgyfarwyddwch â’r 5 Angheuol.
Gall anafiadau a damweiniau ddigwydd os byddwch chi dan ddylanwad cyffuriau ac alcohol.
Mae peidio â thalu sylw neu gwympo i gysgu ill ddau wrth goginio gyfrannu’n fawr at danau domestig, a gallai ychwanegu ychydig o ddiodydd yn rysáit ar gyfer trychineb, gan beryglu eich cartref, eich anwyliaid a chi’ch hun.
Rydyn ni’n gwybod ei fod yn anodd pan fyddwch chi’n aros am help, ond nid cam-drin gweithwyr gwasanaethau brys yw’r ateb. Rydym yma i’ch helpu chi, ac ni allwn wneud hynny os byddwch chi’n ymosod arnom. Diogelwch ein criwiau sy’n dod gyntaf ac os byddant yn cael eu peryglu, efallai na fydd unrhyw ddewis gyda ni ond gadael.
Os ydych chi angen cymorth gennym ni neu ein cydweithwyr yn y gwasanaethau brys, pharchu ni a gweithio gyda ni, nid yn ein herbyn.
Os ydych chi’n dathlu ger y dŵr neu’r arfordir, byddwch yn ddiogel a SYLWCH ar y peryglon:
I gael rhagor o gyngor ac arweiniad, ewch i’n Tudalen Diogelwch Dŵr.
Er mwyn helpu i atal tân yn eich cartref, byddwch yn effro wrth goginio a PHEIDIWCH BYTH â gadael coginio heb oruchwyliaeth.
Ceir rhagor o gyngor diogelwch ar ein Tudalen Diogelwch Coginio.
Rydym yn cydnabod bod y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu yn amrywiol ac rydym yn ymroddedig i ddiwallu anghenion gwahanol. Un o’r ffyrdd gorau inni wneud hyn yw sicrhau bod y bobl orau o’n cymunedau amrywiol yn gweithio i ni.
Gallwch weld rhestr lawn o’n cyfleoedd ar ein Tudalen Swyddi Gwag Diweddaraf.
Mae’r holl ddogfennau ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg ac rydym yn croesawu cyfathrebiadau yn y naill iaith neu’r llall ac ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol.
Am ragor o gyngor ac arweiniad, cysylltwch â’n Tîm Recriwtio…
Ffôn: 01443 232200
E-bost: personel@decymru-tan.zestydev.com
Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2023 yn nodi ein canlyniadau cydraddoldeb strategol ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
Bydd y canlyniadau byddwch yn darllen amdanynt yn y ddogfen hon yn cael eu corffori ym mhopeth a wnawn, gyda phob cam corfforaethol a gymerir gennym yn ymwneud ag un neu fwy o ganlyniadau.
Os ydych chi am gael golwg ar sut wnaethon ni yn 2020/21 wrth fodloni ein gofynion o dan Ddeddf Cydraddoldeb (2010) a Dyletswyddau Penodol Cymru, darllenwch ein Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2020-2021