Larymau Mŵg yn Cadw Sŵn
Cofiwch – Dim Ond Larymau Mŵg Gweithredol sy’n Achub Bywydau
Os oes larymau mŵg gyda chi a osodwyd gyda ni:
Gallwch ddefnyddio’r canllawiau datrys problemau syml hyn i wneud yn siŵr mai nid ychydig o ofal a chynnal a chadw yn unig sydd ei angen ar y larwm mŵg.
Mae’r canllawiau hefyd yn cynnwys manylion cyswllt y gwneuthurwr er mwyn i chi allu eu ffonio am gyngor.
Os ydych yn dal i fod yn pryderu ac os oes problem gyda chi o hyd:
Anfonwch e-bost ar CFS@decymru-tan.zestydev.com
Ffoniwch ni ar 0800 169 1234
Os ydych chi wedi prynu larymau o siop DIY ag enw da ac wedi eu gosod nhw eich hun:
Edrychwch ar y canllawiau a ddaeth gyda’r larwm i wneud yn siŵr eich bod yn dilyn canllawiau’r gwneuthurwr – dylai fod rhif cyswllt yno y gallwch ei ffonio i gael cyngor.
Os oes gennych larymau sy’n cael eu pweru gan eich cyflenwad trydan:
Archwiliwch y batri – fel arfer mae gan larymau trydan fatri wrth gefn 9v ynddynt rhag ofn bod toriad pŵer. Dylech ei newid bob blwyddyn a gall wneud i’ch larwm gael ei bipio os bydd yn mynd yn wan.
Os ydych chi wedi newid hwn a bod y larwm yn dal i fod yn bipio, cysylltwch â thrydanwr cymwys i ofyn am gyngor a gwirio eich cyflenwad trydan.
Cofiwch brofi eich larwm bob wythnos #profwcheddydd