Buddion
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gyrfaol mewn rolau gweithredol a chynnal. Gwelwch ein swyddi gwag diweddaraf neu cysylltwch â ni gydag unrhyw ymholiadau ar personel@decymru-tan.zestydev.com
Yn un o weithwyr y Gwasanaeth, bydd gennych hawl i nifer o fuddion.
Gwyliau Blynyddol
Mae angen gwyliau ar bawb o dro i dro. Mae lwfans gwyliau blynyddol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn dechrau ar 25 diwrnod a gwyliau banc.
Buddion Bernie
Gyda cherdyn Vectis, gallwch ddechrau arbed arian mewn siopau brand mawr yn eich ardal leol a ledled y DU.
Tîm Cynorthwyo Cydweithwyr
Rydym ni’n poeni am ein gilydd. Mae ein Tîm yn cynnwys cynorthwywyr hyfforddedig sy’n darparu cymorth ac arweiniad i alluogi unigolion fynd i’r afael ag unrhyw broblemau neu bryderon a all fod ganddyn nhw.
Rhaglen Cynorthwyo Gweithwyr
Mae’r Rhaglen Cynorthwyo Gweithwyr yn darparu cyngor a chymorth cyfrinachol, diduedd, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim i’r gweithwyr ei gyrchu, pa bryd bynnag sydd angen.
Elusen yr Ymladdwyr Tân
Gall pob gweithiwr, ynghyd â’u dibenyddion, fod yn fuddiolwyr i’r elusen. Mae’r elusen yn darparu cymorth iechyd a lles i gymuned gyfan y Gwasanaeth Tân.
Oriau Hyblyg
Mae staff cymorth yn gallu gweithio oriau hyblyg. Yr oriau craidd yw 10am-12pm a 2-3pm; gallwch gwblhau gweddill eich oriau ar unrhyw adeg rhwng 7am a 7pm.
Lle Parcio Rhad ac am Ddim
Nid yw Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn codi tâl am barcio ar unrhyw un o’i safleoedd.
Campfa
Ble bynnag rydych chi wedi’ch lleoli fel gweithiwr Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, mae mynediad at gyfleusterau’r gampfa ar gael i bawb, yn rhad ac am ddim.
Cynghorwyr Iechyd a Ffitrwydd
Mae Cynghorwyr Iechyd a Ffitrwydd yn monitro lefelau ffitrwydd staff gweithredol. Gallant hefyd gynnig cyngor ar gais ar iechyd a ffitrwydd i’r holl weithwyr.
Dysgu a Datblygu
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cydnabod bod gweithwyr hyfforddedig da yn allweddol i lwyddo. Mae gennym ni Ganolfan Hyfforddi bwrpasol ym Mhorth Caerdydd, a thimau hyfforddi arbenigol, felly mae digon o gyfleoedd i gynyddu a datblygu eich sgiliau.
Hyrwyddwyr Golau Glas MIND
Yn rhan o’n hymrwymiad parhaus i iechyd a lles, rydym ni’n cynorthwyo Rhaglen Golau Glas MIND. Mae’r rhaglen yn cynnig cymorth iechyd meddwl i weithwyr y gwasanaethau brys.
Iechyd Galwedigaethol
Nod yr Uned Iechyd Galwedigaethol yw gwneud y mwyaf o iechyd, lles ac effeithlonrwydd staff, a lleihau’r risgiau y mae staff yn agored iddynt o ganlyniad i arferion gweithio a’r amgylchedd gweithio.
Pensiwn
Mae staff cymorth yn gymwys i ymuno â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, sy’n gynllun pensiwn â buddion wedi’u diffinio. Mae cyfraniadau gweithwyr yn seiliedig ar eich cyflog. Mae Ymladdwyr Tân gweithredol yn gymwys i ymuno â Chynllun Pensiwn yr Ymladdwyr Tân.
Cyflog
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn ymroddedig i gyflog teg i bawb. Mae gennym ni raddfeydd cyflog penodol ar gyfer gweithwyr o bob gradd.
Adran Chwaraeon a Chymdeithasol
Mae ein hadran chwaraeon a chymdeithasol yn dod â gweithwyr o bob adran at ei gilydd. Dyma rai o’r diddordebau a rennir: ffotograffiaeth, sgïo, crwydro, beicio, pêl-droed, rygbi, syrffio a golff.
Aelodaeth o Undebau
Mae Undeb y Brigadau Tân ac Unison yn cael eu cydnabod gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru fel partneriaid trafod. Mae aelodaeth o undeb yn cynnig buddion fel cymorth cyfreithiol, iawndal, cyngor ar ddyledion, gostyngiadau i aelodau, cyngor, cymorth a hyfforddiant.
Cyrsiau Cymraeg
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg yn y gweithle ac yn cynnig mynediad i’r holl weithwyr at gyrsiau Cymraeg ar amrywiaeth o lefelau sy’n addas ar gyfer unrhyw angen.