Yr Un Sgiliau | Rolau Gwahanol | Byddwch Mwy gyda Ar-Alwad

Yr un sgiliau, rolau gwahanol, Byddwch Mwy gyda Ar-Alwad.

Ydych chi erioed wedi meddwl gallwch ddefnyddio eich sgiliau o’ch rôl bresennol rhywle arall? Eisiau bod yn rhan o dîm a helpu cadw eich cymuned yn ddiogel? Yna efallai y gallech Byddwch Mwy gydag Ar Alwad!

Drwy gydol mis Awst, byddwn yn hyrwyddo ein swyddi Diffoddwr Tân Ar-Alwad ledled De Cymru, gan amlygu rôl Diffoddwr Tân Ar-Alwad a hyrwyddo nifer o weithgareddau, swyddi gwag a digwyddiadau ar ein sianeli – felly sicrhewch eich bod yn dilyn ni ar Facebook | Twitter | Instagram i ddarganfod mwy!


Beth yw Diffoddwr Tân Ar-Alwad?

Yn Ne Cymru, mae Diffoddwyr Tân Ar-Alwad yn cyfrif am bron i hanner ein gweithlu gweithredol ac yn bobl sy’n rhoi eu hamser i wasanaethu eu cymuned am gyflog. Rhaid iddynt fyw neu weithio o fewn tua 5 munud i’r orsaf y maent yn ymateb iddi.

Yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, mae ein Diffoddwyr Tân Ar-Alwad yn dod o bob cefndir. Gallant fod yn bobl gweithwyr swyddfa, dylanwadwyr cyfryngau cymdeithasol, tendrwyr bar, ffermwyr, myfyrwyr, ynghyd â’r rhai sy’n hunan gyflogedig neu nad ydynt yn gyflogedig ar hyn o bryd. Mae gennym amrywiaeth o gontractau ar gael sy’n cynnig hyblygrwydd o amgylch eich ymrwymiadau a’ch patrymau gwaith presennol.

Mae’r rôl Ar-Alwad yn heriol ac yn rhoi boddhad, gyda hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu ac nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol i wneud cais.

Mae Diffoddwyr Tân Ar-Alwad, yn union fel y rhai sy’n llawn amser, yn ymateb i danau a galwadau gwasanaeth arbennig megis gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd, argyfyngau cemegol, llifogydd a thrychinebau naturiol eraill. Maent hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth hysbysu, atal ac addysgu cymunedau lleol mewn diogelwch tân gan gynnwys cynnal ymweliadau diogel a lles.


Beth yw’r manteision o fod yn Ddiffoddwr Tân Ar-Alwad?

Drwy ddod yn Ddiffoddwr Tân Ar-Alwad gyda ni, byddwch yn derbyn cyfleoedd hyfforddi a datblygu o’r radd flaenaf ac yn cael y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol lle rydych yn byw neu’n gweithio.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar-Alwad yn rhoi ymdeimlad o berthyn i chi a gallwch ennill ar gyfartaledd £8,859 y flwyddyn. I ddarganfod faint allech chi ei ennill, gweler ein graddfeydd cyflog Diffoddwr Tân Ar-Alwad.

I gael y rhestr lawn o fuddion, edrychwch a lawrlwythwch ein Llyfryn Gwybodaeth Diffoddwr Tân Ar-Alwad.


Ble gallaf gael rhagor o wybodaeth?

Mae digwyddiadau recriwtio a Noson Drilio yn ddwy ffordd y gallwch gwrdd â staff neu griwiau i drafod dod yn Ddiffoddwr Tân Ar-Alwad. Ewch i’n Tudalen Digwyddiadau neu edrychwch ar ein Map Noson Drilio i ddod o hyd i sesiwn eich gorsaf leol.

Gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth, gan gynnwys pa orsafoedd sy’n recriwtio ar hyn o bryd a sut i wneud cais, ar ein Tudalen Diffoddwyr Tân Ar-Alwad.

Eisiau darganfod mwy? Cwblhewch y ffurflen mynegi diddordeb isod…