Gemau a Adnoddau
Yn galw #EinHarwyrGartref i gyd – yr wythnos hon rydyn ni’n newid pethau braidd a’ch tro chi yw hi nawr i herio ein diffoddwyr tân!
Ar gyfer pumed her y Prif Swyddog Tân, rydym am i chi anfon unrhyw gwestiynau yr hoffech chi eu gofyn i’n diffoddwyr tân. Ydych chi eisiau gwybod sut brofiad yw gwisgo offer tân neu faint o ddŵr mae peiriant tân yn ei ddal? Anfonwch hyd at bum cwestiwn i ni am unrhyw beth sy’n gysylltiedig â’r gwasanaeth tân a byddwn yn dewis y gorau ac yn ffilmio ein criwiau yn eu hateb.
I gymryd rhan, anfonwch e-bost yn cynnwys eich cwestiynau i cyfryngau@decymru-tan.zestydev.com a nodwch eich enw a’ch oedran. Plant dan 13 oed – gofynnwch i oedolyn cyfrifol eich helpu.
– Dringo’r Tŵr – Helpwch yr ymladdwr tân i ddringo’r tŵr drwy ateb problemau mathemategol.