Safonau’r Gymraeg ac Awdurdod Tân ac Achub De Cymru

O dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, mae’n ofynnol i bob sefydliad Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghymru gydymffurfio â dyletswyddau iaith sy’n sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae’r dyletswyddau’n annog hyrwyddo’r Gymraeg, defnyddio’r Gymraeg o fewn gweinyddiad mewnol ac yn mynnu bod darpariaeth ar gael i’r cyhoedd o ran hygyrchedd y Gymraeg.

Cyflwynwyd Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 5) 2016 i’r Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru. Mae safonau’r Gymraeg yn darparu

  • Eglurder i sefydliadau ar yr Iaith Gymraeg
  • Eglurder i siaradwyr Cymraeg ar ba wasanaethau y gallant ddisgwyl eu derbyn yn Gymraeg
  • Mwy o gysondeb mewn Gwasanaethau Cymraeg a gwella ansawdd i ddefnyddwyr

Mae’r rheoliadau’n nodi bod Mesur 2011 yn caniatáu i Gomisiynydd Cymru ddyroddi Hysbysiad Cydymffurfio, sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff gydymffurfio ag un neu fwy o safonau sy’n benodol gymwys iddo.

Rhoddwyd 150 o Safonau Cymraeg i’r Awdurdod er mwyn cydymffurffio o fewn meysydd; cyflwyno gwasanaethau, llunio polisïau, gweithredu a Chadw cofnodion.

Safonau’r Gymraeg – llyfrgell ddogfennau

Ceir hyd i’n dogfennaeth Safonau’r Gymraeg drwy’r dolenni isod:

Rhoddwyd Hysbysiad Cydymffurfio Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar y 30ain o Fedi 2016.

Mae’r cynllun yn egluro sut mae’r Awdurdod yn bwriadu gweithredu Safonau’r Gymraeg.

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod gyhoeddi adroddiad Blynyddol sy’n hysbysu pobl am y camau yr ydym wedi eu cymryd i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.  Y dyddiad cau ar gyfer cyhoeddi’r adroddiad yw chwe mis yn dilyn diwedd blwyddyn ariannol yr Awdurdod (yr 30ain o Fedi).

Cwynion a Chanmoliaeth

I gofrestru cwyn neu ganmoliaeth mewn perthynas â chydymffurfiaeth Awdurdod Tân ac Achub De Cymru â Safonau’r Gymraeg, dilynwch ein trefn cwyno a chanmol drwy lenwi’r ffurflen ar-lein yma

Manylion cyswllt yr Iaith Gymraeg

Cyfeiriad: Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub de Cymru, Parc Busnes Forest View, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf, CF72 8LX

Ffôn: 01443 232000

e-bost: YGymraeg@decymru-tan.zestydev.com