Byddwch Yn Wyliadwrus. Peidiwch â Chael Eich Brifo ar Noson Tân Gwyllt Eleni
Gan fydd arddangosfeydd yn cael eu cynnal eleni, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn paratoi ar gyfer noson brysurach nag arfer. Rydym yn gofyn i bobl beidio â chymryd risgiau a allai roi pwysau ychwanegol ar ein gwasanaethau brys. Rydym yn gofyn i bawb fod yn effro, peidiwch â chael eich brifo ar noson Tân Gwyllt eleni.
Y llynedd, rhwng Hydref a Thachwedd mynychwyd 555 o danau bwriadol, gyda 19 ohonynt wedi eu hachosi drwy gamddefnyddio Tân Gwyllt a Choelcerthi – cynnydd bychan ers 2019. Hoffem weld y niferoedd hyn yn gostwng gan y gall mynychu digwyddiadau tân gwyllt a chamddefnyddio coelcerthi gostio munudau a all achub bywydau gan fod ein diffoddwyr tân yn methu cyrraedd argyfyngau eraill mor gyflym. Gall tân gwyllt a choelcerthi fod yn beryglus dros ben os na chânt eu rheoli a’u trin yn gywir. Peidiwch â pheryglu eich anwyliaid neu eich gymuned leol, gall tanau ledu a mynd allan o reolaeth mewn ychydig o eiliadau, gan achosi o bosib ddifrod i eiddo, anaf a hyd yn oed farwolaeth.
Dywedodd Rheolwr Grŵp Bleddyn Jones, Pennaeth Diogelwch Cymunedol a Phartneriaethau: “Mae’r adeg hon o’r flwyddyn bob amser yn amser prysur i’n diffoddwyr tân. Mae cynnau tân gwyllt yn eich gardd eich hun yn creu risg sylweddol felly byddwn bob amser yn annog y cyhoedd i fynychu arddangosfa a drefnir yn broffesiynol.
Os ydych chi’n dewis dathlu yng nghysur eich cartref eich hun, gwnewch hynny’n ofalus, byddwch yn ofalus iawn a dilynwch y cod tân gwyllt.
Mae ein neges yn syml – byddwch yn gall a gofalwch amdanoch chi eich hun a’ch gilydd fel na fydd angen ein gwasanaethau arnoch chi yn ystod eich noson. Rydym yn mynychu llawer o danau heb oruchwyliaeth ac anafiadau a achosir gan dân gwyllt a choelcerthi allan o reolaeth. Mae tân gwyllt yn llawer o hwyl ond mae’n bwysig iawn bod yn ofalus a mwynhau’r dathliadau’n gyfrifol. Gall ymddwyn yn anghyfrifol o gwmpas tanau a thân gwyllt gael canlyniadau dinistriol, gan achosi anafiadau sy’n fygythiad i fywyd a yn oed ladd.”
Dangosodd arolwg diweddar a gynhaliwyd gan yr RSPCA, gyda pherchnogion anifeiliaid anwes/anifeiliaid, fod bron i 2/3 (63%) yn adrodd am arwyddion o drallod yn eu hanifeiliaid yn ystod y tymor tân gwyllt.
Derbyniodd yr RSPCA 11,000 o ymatebion i’w harolwg adrodd am ddigwyddiadau tân gwyllt newydd yn 2021 – daeth 68% o’r adroddiadau hyn gan aelodau o’r cyhoedd yr effeithiwyd ar eu hanifeiliaid gan arddangosiadau iard gefn preifat yn y cartref ac nid oedd 94% o’r ymatebwyr i’n harolwg effaith yn 2021 wedi cael rhybudd ymlaen llaw am arddangosiadau tân gwyllt yn eu hardal.
Er mawr syndod, roedd 19% o adroddiadau a dderbyniwyd am anifeiliaid mewn trallod o ganlyniad i ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Dywedodd Carrie Stones, rheolwr ymgyrchoedd yr RSPCA: “Mae cyfoeth o wybodaeth ar wefan yr RSPCA ar sut i baratoi eich anifeiliaid ymlaen llaw megis cadw anifeiliaid anwes yn y tŷ a rhoi blancedi ychwanegol i wneud hafan ddiogel iddynt. Byddem hefyd yn eich cynghori i ymgynghori â’ch milfeddyg os ydych yn teimlo bod eich anifail yn arbennig o bryderus.
“Os bydd pobl yn ystyried cynnal eu harddangosfeydd eu hunain byddem yn eu hannog i fod yn ystyrgar a rhoi gwybod i gymdogion ag anifeiliaid, gan gynnwys y rhai sydd â cheffylau a da byw eraill gerllaw, am eu cynlluniau ymhell ymlaen llaw fel y gallant wneud paratoadau i leihau’r straen ar eu hanifeiliaid.
“Gall tân gwyllt gyda llai o sŵn wneud cymaint o wahaniaeth gan wneud arddangosfeydd yn fwy diogel i bawb.
“Mewn gair, cofiwch am anifeiliaid os ydych chi’n trefnu eich arddangosfa eich hun ac edrychwch ar ein cyngor ar ein gwefan.
Mae RSPCA yn cynnal ei negeseuon #BangOutOfOrder ers blynyddoedd lawer ac mae’r rhain yn cefnogi cael mwy o reolaethau dros arddangosiadau tân gwyllt.
I gael cynghorion mwy cyffredinol ewch iwefan yr RSPCA.
Cofiwch taw ffrwydriadau y tân gwyllt, felly dylid eu trin gyda pharch a’u defnyddio yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a’r Cod Tân Gwyllt.
Gellir atal anafiadau trwy ddilyn y cod Tân Gwyllt. Os byddwch chi’n dioddef gan losgiadau, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n:-
Arddangosfeydd Trefnus
Mae diffoddwyr tân yn cynnal eu harddangosfeydd Tân Gwyllt blynyddol ar gyfer 2022!
Blaenau Gwent
Nodwch fod tocynnau ar gyfer yr arddangosfeydd isod wedi GWERTHU ALLAN:
Mae pawb yn dwlu ar gael eu dychryn yn dda ar Galan Gaeaf, ond mater arall yw eich diogelwch. Byddwch yn ddiogel a pheidiwch ag edifarhau a dilynwch y cyngor isod;
Addurniadau
Mae pwmpenni yn rhan annatod o dymor Calan Gaeaf a gall cerfio pwmpen fod yn hwyl. Er bod hi’n draddodiad i ynnwys canhwyllau i’w goleuo a chreu wynebau brawychus, rydym yn argymell newid i oleuadau batri fel opsiwn mwy diogel.
Llusernau a Phwmpenni
Mae Calan Gaeaf yn achlysur gwych i wisgo’ch cartref gyda phob math o addurniadau arswydus. Mae llawer o gartrefi yn defnyddio canhwyllau yn eu haddurniadau i wella’r awyrgylch iasol. Byddem bob amser yn argymell eich bod yn defnyddio goleuadau batri yn y lle cyntaf ond os dewiswch ddefnyddio canhwyllau, mae’n bwysig bod yn wyliadwrus o’u lleoliad a’r addurniadau eraill o’u cwmpas. Dylai canhwyllau gael eu hynysu ddigon fel nad ydyn nhw’n achosi unrhyw berygl, felly gwnewch yn siŵr bod addurniadau eraill neu rannau hongian yn cael eu cadw i ffwrdd o’r fflamau noeth.
Diogelwch Canhwyllau
Gwnewch yn siwr fod canhwyllau wedi’u gosod mewn daliwr cywir ac i ffwrdd o ddeunyddiau a allai fynd ar dân – fel llenni. Rhowch ganhwyllau allan pan fyddwch chi’n gadael yr ystafell, a gwnewch yn siŵr eu bod yn cael eu diffodd yn llwyr yn y nos. Defnyddiwch snuffer neu lwy i ddiffodd canhwyllau, mae’n fwy diogel na’u chwythu allan gan y gall gwreichion hedfan. Cofiwch, ni ddylai plant byth gael eu gadael ar eu pen eu hunain gyda chanhwyllau wedi’u cynnau.
Gwisgoedd
Byddwch yn wyliadwrus o’r deunyddiau a ddefnyddir mewn gwisgoedd Calan Gaeaf. Mae deunyddiau synthetig yn llawer mwy fflamadwy na deunyddiau naturiol, felly cadwch lygad am wisgoedd sy’n cynnwys cotwm, sidan neu wlân. Bydd y deunyddiau hyn yn gallu gwrthsefyll tân yn well ac yn rhoi mwy o amser i chi’ch hun i weithredu os bydd tân yn digwydd.
Am ragor o gyngor ac arweiniad ewch i: https://southwales-fire.zestydev.com/your-safety-wellbeing/ Am ragor o gyngor ac arweiniad ewch i: https://southwales-fire.zestydev.com/your-safety-wellbeing/
Am ragor o gyngor ac arweiniad ewch i