Arbenigwyr Tanau Gwyllt yn disgyn ar Brifddinas Cymru
Bydd cynrychiolwyr ledled y byd yn dod i Gaerdydd yr wythnos nesaf (Tach 18-22) i drafod effaith ryngwladol tanau gwyllt a sut y cawn fynd i’r afael â hwn wrth gydweithio.
Cynhelir y rhaglen o ddigwyddiadau sy’n para wythnos, a gefnogir gan Fforwm Tanau Gwyllt Cymru a Lloegr, gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Law yn llaw â chyfarfodydd o arbenigwyr allweddol rhyngwladol gan gynnwys Rhwydwaith Arloesi Rheoli Argyfyngau Ewrop, Grŵp Ymchwil Tanau Gwyllt y DU a’r Sefydliad Fforestydd Ewropeaidd, bydd yr wythnos yn cynnwys cynhadledd tanau gwyllt rhyngwladol o’r enw Rheoli’r Tanwydd : Lleihau’r Risg a gynhelir yn Stadiwm arobryn y Principality, Caerdydd (Dydd Mercher Tachwedd yr 20fed a Dydd Iau Tachwedd yr 21ain, 2019).
Mae’r gynhadledd wedi denu llawer o ddiddordeb gan arbenigwyr ac ymchwilwyr tanau gwyllt ledled y byd a bydd yn annog cydweithredu a rhannu sgiliau a gwybodaeth i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ar sut yr aed i’r afael â digwyddiadau tanau gwyllt ar draws y byd yn y dyfodol. Bydd 24 o siaradwyr yn annerch yn ystod y digwyddiad deuddydd o hyd, yn cwmpasu amrediad eang o bynciau.
Mae Fforwm Tanau Gwyllt Cymru a Lloegr yn dynodi y cynyddodd bygythiad ac effaith tanau gwyllt yn sylweddol yn fydeang yn ystod y blynyddoedd diweddar ac efallai bod newid hinsawdd, dylanwadau cymdeithasol-economaidd ac amrywder defnydd tir wedi cyfrannu at hyn. Mynegodd y Fforwm ei fod, felly, hyd yn oed yn bwysicach i bob asiantaeth, cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, yn ymgysylltu mewn trafodaethau a rhannu arferion da i leihau’r risg o niwed gan danau gwyllt drwy law strategaeth rheoli tir ystyriol a chyfannol.
Disgwylir i’r Gynhadledd fod yn gyfle unigryw i rannu safbwynt eang ar sut gall rheoli tir effeithiol a chydgysylltiol gael effaith gadarnhaol ar ostwng bygythiad a chanlyniadau tanau gwyllt.
Am fwy o wybodaeth: https://decymru-tan.zestydev.com/ewwf-tanau-gwyllt-cynhadledd-2019/